Ann Patchett

Oddi ar Wicipedia
Ann Patchett
Ganwyd2 Rhagfyr 1963, 2 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylNashville, Tennessee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Sarah Lawrence
  • Prifysgol Iowa Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Patron Saint of Liars, Bel Canto, Run, State of Wonder, Tom Lake Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Janet Heidinger Kafka, Gwobr PEN/Faulkner am Ffuglen, Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen, Gwobr Helmerich, Gwobr Heartland, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.annpatchett.com Edit this on Wikidata

Nofelydd Americanaidd yw Ann Patchett (ganwyd 2 Rhagfyr 1963). Fe'i ganed yn Los Angeles a mynychodd Goleg Sarah Lawrence a Phrifysgol Iowa.[1][2]

Derbyniodd Wobr PEN / Faulkner 2002 a'r Wobr Oren am Ffuglen yn yr un flwyddyn, am ei nofel Bel Canto.[3][4] Mae nofelau eraill Patchett yn cynnwys The Patron Saint of Liars (1992), Taft (1994), The Magician's Assistant (1997), Run (2007), State of Wonder (2011), a Commonwealth (2016 ).[5]

Yn 2010, cyd-sefydlodd y siop lyfrau "Parnassus Books" gyda Karen Hayes a agorwyd yn Nhachwedd 2011. Yn 2016, ehangodd Parnassus Books, gan ychwanegu siop lyfrau ac ehangu marchnad potensial y siop lyfrau yn Nashville. Yn 2012, roedd Patchett ar restr Time 100 list of most influential people in the world gan gylchgrawn TIME.[6]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ei thad oedd Frank Patchett, capten heddlu yn Los Angeles, a Jeanne Ray, nyrs a ddaeth yn nofelydd yn ddiweddarach. Hi yw'r ieuengaf o ddwy ferch. Ysgarodd Frank a Jeanne pan oedd yn ifanc, a phriododd ei mam eilwaith, gan symud y teulu i Nashville, Tennessee pan oedd Patchett yn chwech oed.[7][8][9][10][11]

Mynychodd Patchett Academi St Bernard, ysgol Gatholig breifat i ferched yn Nashville, Tennessee sy'n cael ei rhedeg gan leianod. Ar ôl graddio, mynychodd Goleg Sarah Lawrence. Yn ddiweddarach mynychodd Weithdy Awduron Iowa ym Mhrifysgol Iowa a Chanolfan Waith y Celfyddydau Cain yn Provincetown, Massachusetts, lle ysgrifennodd ei nofel gyntaf The Patron Saint of Liars. [12][13]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1995), Gwobr Janet Heidinger Kafka (1994), Gwobr PEN/Faulkner am Ffuglen (2002), Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen (2002), Gwobr Helmerich (2014), Gwobr Heartland (2004), Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2023)[14][15] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Anon. (14 Medi 2016). "GoodReads: Ann Patchett [user submitted author biography]". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2008. Cyrchwyd 14 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)Nodyn:Better source
  2. Lundquist, Molly. "State of Wonder - Ann Patchett - Author Biography - LitLovers". www.litlovers.com. Cyrchwyd 2016-11-04.
  3. PEN/Faulkner Staff (2002). "Past Winners & Finalists: 2002—Ann Patchett, Bel Canto". penfaulkner.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-21. Cyrchwyd 14 Medi 2016.
  4. Brown, Mark (17 Ebrill 2012). "Orange Prize 2012 Shortlist Puts Ann Patchett in Running for Second Victory". The Guardian. https://www.theguardian.com/books/2012/apr/17/orange-prize-shortlist-ann-patchett. Adalwyd 14 Medi 2016.
  5. "Ann Patchett". Goodreads. Cyrchwyd 2016-11-04.
  6. Patchett, Ann (December 2012). "The Bookstore Strikes Back". The Atlantic. https://www.theatlantic.com/magazine/archive/2012/12/the-bookstore-strikes-back/309164/. Adalwyd 6 Mawrth 2014.
  7. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14415685p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  8. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14415685p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2007/09/20/books/20masl.html. http://www.nytimes.com/2011/07/17/books/review/inside-the-list.html. http://www.nytimes.com/2012/04/19/opinion/deconstructing-the-pulitzer-fiction-snub.html.
  9. Dyddiad geni: http://www.nndb.com/lists/508/000063319/. "Ann Patchett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ann Patchett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 26 Mehefin 2019
  10. Man geni: http://www.bookbrowse.com/bb_briefs/detail/index.cfm/ezine_preview_number/9038/this-is-the-story-of-a-happy-marriage. http://www.debate.org/reference/taft-book. http://www.encyclopedia.com/article-1G2-3070000131/patchett-ann-1963.html.
  11. Giles, Wanda H.; Bonner, J. H. (2009). Twenty-First-Century American Novelists: Second Series. Dictionary of Literary Biography Vol. 350. Detroit: Gale Cengage Learning. ISBN 9780787681685 – drwy Literature Resource Center. Ann Patchett
  12. Galwedigaeth: http://www.theage.com.au/news/entertainment/books/inspiration-blooms-in-an-antipodean-eden/2008/10/09/1223145538869.html.
  13. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/ann-patchett/. dyddiad cyrchiad: 21 Rhagfyr 2020. https://rochester.edu/college/wst/SBAI/recipients.html. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2016.
  14. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/ann-patchett/. dyddiad cyrchiad: 21 Rhagfyr 2020.
  15. https://rochester.edu/college/wst/SBAI/recipients.html. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2016.